Sefydlwyd GwerthwchiGymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i helpu busnesau bach a chanolig eu maint agor drysau ac ennill cytundebau gyda chleientiaid sector cyhoeddus ledled Cymru.
Mae'r safle yn ymddwyn fel hysbysfwrdd sy'n caniatáu i chi hysbysebu gwasanaethau eich cwmni a dod o hyd i dendrau sector cyhoeddus Cymru addas. Mae hefyd yn offeryn prynu pwysig i'r sector cyhoeddus, gan eu bod yn cael ei ddefnyddio i adnabod busnesau addas a'u gwahodd i wneud dyfynbris am waith a thendro am gytundebau.
Mae'r safle'n darparu chi gyda:
- Man cyfarfod ar-lein er mwyn cyflenwi i'r sector cyhoeddus
- Aelodaeth am ddim a chymorth gyda thendrau
- Rhybuddion e-bost ynglŷn â'r cyfleoedd busnes diweddaraf, mwyaf perthnasol
- Mynediad at borth sengl sy'n rheoli caffael sector cyhoeddus gyfan Gymru
Hanes
Wedi lansio yn 2003, mae'r safle'n rhan o strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i gefnogi tyfiant SMEau yng Nghymru ac yn ffurfio rhan o raglen e-gaffael Gwerth Cymru. Porth tendro cyntaf sector cyhoeddus Cymru ydoedd a'r cyntaf i ddarparu hysbysiadau e-bost awtomataidd i gwmnïau.
Ers ei lansiad, cafwyd dros £5 biliwn werth o gytundebau a thendrau sector cyhoeddus eu hysbysebu ar-lein a'u hanfon at gyflenwyr cofrestredig.