Constructionline – Hwyluso'r broses gyn-gymhwyso
Ydy ffurflenni cyn-gymhwyso’n faich i chi? Fyddai’n well gennych chi dreulio llai o amser ar waith papur a mwy o amser yn ennill contractau?
Cofrestr genedlaethol y Llywodraeth o gyflenwyr adeiladu neu adeiladu-gysylltiedig sydd wedi’u cyn-gymhwyso yw Constructionline ac mae'n cynnwys dros 8,000 o brynwyr sy’n defnyddio’r gronfa ddata’n rheolaidd er mwyn nodi rhestr fer o gyflenwyr.
Rydym ar gael i wneud y broses gyn-gymhwyso adeiladu yn haws i chi. Drwy anfon eich data cyn-gymhwyso atom ni, gallwn ei wirio a’i storio ar ein system. Unwaith y caiff ei gyhoeddi, bydd ar gael i brynwyr y sector cyhoeddus ei ddarllen unrhyw bryd gan arbed yr angen iddynt wneud cais i chi amdano eto. Bydd hyn yn rhyddhau eich amser i ganolbwyntio ar faterion mwy difrifol sef ennill contractau.
Gallwn ddarparu’r adnoddau i chi:
- Arbed eich adnoddau
- Lleihau’r baich gweinyddol
- Cyrraedd dros 8,000 o brynwyr
- Ennill cydnabyddiaeth a hygrededd o fewn y diwydiant
- Nodi’r prynwyr sydd â diddordeb yn eich busnes
Fel yr arbenigwyr mewn cyn-gymhwyso gallwn eich helpu drwy’r broses o wneud cais. I ymuno â Constructionline ac am ragor o wybodaeth ffoniwch ni ar 0844 892 0313 neu ewch i www.constructionline.co.uk