Sell2Wales

Getting Started

Geirfa

Bydd ein geirfa ar-lein yn helpu chi i ddeall y derminoleg a ddefnyddiwyd ar GwerthwchiGymru.

Derbynioldeb
Pan mae cynnig oddi wrth gyflenwr yn cael ei dderbyn gan brynwr.
Swyddog awdurdodedig
Cynrychiolydd y prynwr sy'n goruchwylio'r cytundeb gyda'r cyflenwr.
Cynigydd
Y cyflenwr sy'n gwneud cynnig i'r corff sector cyhoeddus.
Cynnig
Adnabyddir hefyd fel 'tendr', 'pris' neu 'dyfynbris'.
Holiadur Busnes
Holiadur a ddefnyddir i asesu addasrwydd cyflenwr cyn iddynt gael eu gosod ar restr o gyflenwyr cymeradwy.
Prynwr
Y sefydliad sy'n gyfrifol am gyhoeddi'r tendr a'r drefn ddilynol.
Deialog Cystadleuol
Y drafodaeth o opsiynau sydd ar gael i'r prynwr cyn iddynt ddewis datrysiad oddi wrth gyflenwr.
Cytundeb
Cytundeb gyfreithiol-rwym a wnaed rhwng sefydliadau.
Geirfa Caffael Gyffredin (Codau CPV)
Cyfres o godau 9 digid safonedig, sy'n eu gwneud hi'n haws i gyflenwyr potensial adnabod y cytundebau caffael a ganddynt ddiddordeb ynddynt. Pan ydych yn defnyddio GwerthwchiGymru i ddod o hyd i gyfleoedd tendr, cafwyd codau eu tendro fel eich bod yn gallu dod o hyd i'r rhai sy'n cyd-fynd a'ch cynnyrch a gwasanaethau yn hawdd ac yn gyflym.
Meini Prawf
Y pwyntiau allweddol bydd tendr cyflenwr yn cael ei feirniadu yn erbyn.
Cyfarfod llawn
Cyfarfod i helpu cyflenwyr gwella eu cynigion yn y dyfodol drwy amlinellu pam nad oedd y tendr yn llwyddiannus.
e-gaffael
Prynu a gwerthu nwyddau a gwasanaethau rhwng busnesau a sefydliadau ar-lein.
Amcangyfrif
Pris dilys, rhesymol a darparwyd ar gyfer nwyddau a gwasanaethau.
Panel Gwerthuso
Panel o bobl sydd yn dadansoddi tendrau a dderbynnir a gwneud argymelliadau i bwy y dyfarnwyd y cytundeb.
Mynegiannau o ddiddordeb
Y rhestr o gyflenwyr sy'n bwriadu ymateb i hysbysiad cytundeb.
Cytundeb Fframwaith
Cytundeb sy'n caniatáu i brynwr defnyddio dau neu mwy o gyflenwyr i ddarparu gwasanaethau neu nwyddau yn ystod y cyfnod cytundeb.
Gwahoddiad i Dendro
Gwahoddiad oddi wrth brynwyr i gyflenwyr i wneud cynnig ar gyfer darpariaeth nwyddau a gwasanaethau.
Gwahoddiad i Drafod
Gwahoddiad oddi wrth brynwyr i gyflenwyr i drafod telerau ac amodau dogfennau'r cytundeb.
Dull Trafod Telerau
Dull sy'n caniatáu i brynwyr trafod telerau gyda mwy nag un cyflenwr.
Hysbysiad o ddyfarniad cytundeb
Hysbysiad a godwyd i hysbysu cyflenwyr y cafwyd cytundeb ei gwobrwyo'n llwyddiannus.
OJEU
Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd yn cyhoeddi cytundebau ble mae gwerth y cytundeb dros swm penodol. Diweddarwyd OJEU yn ddyddiol a gallwch ei weld yn ei gyfanrwydd am ddim ar GwerthwchiGymru.
Dull agored
Dull sy'n caniatáu i'r holl gyflenwyr dendro yn ystod y cam hynny o'r broses.
Allanforio
Proses prynu ble defnyddir cyflenwyr allanol gan y prif gyflenwr i ddarparu rhannau o gytundeb.
Cyn-gymhwysiad
Y detholiad o ddarpar gyflenwyr ar gyfer tendr, wedi cael ei hasesu'n wrthrychol gan feini prawf cyn- ddiffiniedig
Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw (PIN)
Mae Hysbysiad Gwybodaeth ymlaen llaw yn hysbysu cyflenwyr fod prynwr yn bwriadu rhoi gwaith allan i dendro o fewn y 12 mis nesaf.
Caffael
Mae'r broses gyfan o gyflenwi nwyddau a gwasanaethau mewn cytundeb sector cyhoeddus, o'r gofyniadau yn cael ei hadnabod gan y prynwr, i'r cytundeb yn cael ei gyflawni gan y cyflenwr.
Prynu
Prynu ydy'r cam yn y broses caffael pan fydd prynwr yn cytundebu'r cyflenwr i dderbyn y nwyddau a gwasanaethau a fynnir.
Dyfynbris
Pris am wasanaeth a ddarperir gan gyflenwr.
Cais am Ddyfynbris
Pan fydd prynwr yn cyhoeddi cyflenwyr potensial gyda gwahoddiad i wneud cais am ofyniad penodol.
Datganiad gofyniad
Dogfen a gynhyrchwyd gan y prynwr sy'n nodi prif ofyniadau'r nwyddau neu'r gwasanaethau maent yn prynu.
Is-gytundebu
Pan fydd rhan o gytundeb yn cael ei ddirprwyo i gytundebwr arall gan brif gyflenwr.
Gwybodaeth Electronig am Dendrau (TED)
TED ydy'r unir fersiwn o'r Cyfnodolyn Swyddogol (OJEU) ac yn cynnwys pob hysbysiad cytundeb uwchben trothwy'r UE, ynghyd a hysbysiadau gwybodaeth flaenorol a hysbysiadau dyfarnu cytundebau.http://ted.publications.eu.int
Tendr
Y cynnig swyddogol a ysgrifennwyd gan y cyflenwr, yn cynnwys cynnig wedi costio i ddarparu gwasanaethau a nwyddau
Dogfennau Tendr
Dogfennau a ddarperir gan y sefydliad prynu sy'n cynnwys y cyfarwyddiadau angenrheidiol, amodau cytundeb a manylion o beth mae cyflenwyr yn gallu cynhyrchu tendr.
Cytundebau Tymor
Y cyfnod penodol o amser o fewn pryd mae'r cytundeb yn ddilys.


Back to Help Centre

Cofrestru

Ar ôl i chi gofrestru, bydd prynwyr yn gallu dod o hyd i'ch cwmni.

Cofrestrwch yma »

Mewngofnodwch »

Are you looking for potential Construction Opportunities?

Wyddoch chi?

Gallwch gofrestru aelodau eraill o'ch cwmni ar gwerthwchigymru er mwyn iddyn nhw allu derbyn e-bost dyddiol am gyfleoedd newydd, gweld yr hysbysiadau diweddaraf am dendrau ac ennill mwy o fusnes i chi. 

Pam na rowch chi rywun o'r adran Gyllid, Gwerthiannau neu Ddatblygu Busnes ar y rhestr?  I ychwanegu defnyddwyr newydd, mewngofnodwch ac ewch i Golygu'ch Proffil

Golygu'ch proffil