I ddechrau dod o hyd i gytundebau sector cyhoeddus bydd angen i chi gofrestru ar GwerthwchiGymru.
Y broses cofrestru ar GwerthwchiGymru yw'r cam cyntaf tuag at chwilio am dendrau addas yng Nghymru ac ennill cytundebau. Yn gryno, disgwylir i chi lenwi:
- Proffil defnyddiwr - gwybodaeth sylfaenol ynglŷn â chi eich hunan, yn cynnwys y cyfrinair a fyddwch yn defnyddio i fewngofnodi i GwerthwchiGymru wedi i chi cofrestru.
- Proffil Cwmni - manylion ynglŷn â pha fath o gwmni ydy'ch busnes, ynghyd a'r nifer o weithwyr a dyddiad cofrestru'r cwmni.
- Cynnyrch a Gwasanaethau - categorïau y mae cynnyrch/ gwasanaethau eich cwmni yn gysylltiedig â nhw. Cafwyd y rhain eu categoreiddio gan ddefnyddio codau CPV.
- Rhanbarthau - lleoliadau y gallai eich busnes cyflenwi iddynt, gan ganiatáu i gyflenwyr dod o hyd i chi a GwerthwchiGymru i'ch hysbysu ynglŷn â chytundeb posibl.
- Gwybodaeth ychwanegol - a ddefnyddiwyd gan brynwyr yn asesu cyflenwyr potensial, mae'r wybodaeth opsiynol hon yn cynnwys gwerthoedd tendr lleiaf a mwyaf ac aelodaeth masnach.
- Canolwyr - Gwybodaeth sy'n eich caniatáu i arddangos cleientiaid sy'n hapus gyda'ch gwaith ac yn fodlon i roi geirda ar gyfer eich cynnyrch a'ch gwasanaethau.
- Adnoddau - dogfennau pwysig y gallai prynwyr ymofyn bob tro yr ydych yn tendro, yn cynnwys cyfrifon archwiliedig a pholisïau er enghraifft iechyd a diogelwch, cyfleoedd cyfartal ac amgylcheddol. Gallwch hefyd lanlwytho deunydd gwerthu allweddol er enghraifft llyfryn eich cwmni, CVs staff a manylion cynnyrch.
- Defnyddwyr - manylion ynglŷn â'r bobl yn eich cwmni a fydd yn derbyn hysbysiadau e-bost o hysbysiadau cytundebau. Gallwch hefyd derbyn tendrau UE yn ychwanegol at y tendrau yng Nghymru.
Gallwch gofrestru fan hyn.