Defnyddir y Cais am Ddyfynbris ar gyfer cytundebau gwerth isel ac mae'n gwneud y broses caffael yn gyflymach ac yn hawddach.
Gellir dod o hyd i gais am ddyfynbrisiau yn union yr un modd a hysbysiadau a bydd hysbysiadau e-bost yn cael eu hanfon atoch pan gyhoeddir Ceisiadau am Ddyfynbrisiau newydd sy'n cyd-fynd a phroffil eich cwmni. Yn gyffredinol mae Ceisiadau am ddyfynbrisiau naill ai yn:
- Fyrrach - Ble mae'r gwerth yn llai na £25,000, mae angen 3 dyfynbris (mwyafrif o 7) a gellir gwneud penderfyniad ar bris yn unig.
- Safonol - Ble mae'r gwerth rhwng £25,000-£93,000, mae angen 5 dyfynbris (mwyafrif o 7) a rhennir penderfyniad 60/40 rhwng gallu technegol a phris.
Disgrifiwyd Ceisiadau am Ddyfynbris ar GwerthwchiGymru gan y:
- Gwerth amcangyfrifedig
- Rhanbarthau dewisol ble mae'r gwasanaethau / nwyddau yn ofynnol
- Codau CPV
- Teitl y Cais am Ddyfynbris
- Disgrifiad Llawn o'r Cais am Ddyfynbris
- Dyddiad cychwyn/ derbyn
- Swm gofynnol
- Dyddiad cau ar gyfer ymatebion
- Manylion Cyswllt am ragor o wybodaeth
Wedi i chi anfon eich Cais am Ddyfynbris, mae'r prynwr yn adolygu'r dyfynbrisiau a anfonwyd ac yn dewis i naill ai derbyn neu wrthod bob dyfynbris. Y naill ffordd neu'r llall, byddwch yn derbyn e-bost oddi wrth y prynwr drwy GwerthwchiGymru.