07 Mawrth 2007
Lansiodd Awdurdod Gweithredu’r Gemau Olympaidd (ODA) ei Bolisi Caffael heddiw sy’n pennu’r gwerth a’r safon yr hoffai ei weld gan gwmnïau sy’n gwneud cais am gontractau ODA.
Wrth lansio’r polisi mewn cynhadledd i’r diwydiant adeiladu bore heddiw 07/03/2007 dywedodd Prif Weithredwr yr Awdurdod, David Higgins, fod yr ODA yn awyddus i weithio gyda’r goreuon o fyd busnes ac y byddai’n arddel agwedd deg a chytbwys at gaffael contractau sy’n gysylltiedig â darparu’r lleoliadau a’r isadeiledd ar gyfer Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2012.
Mae’r Polisi Caffael yn esbonio fod gwerth da a safon uchel yn hanfodol ac y gofynnir i gwmnïau sy’n awyddus i ennill contractau ODA ddangos sut fyddan nhw’n perfformio yn ôl y mesurau perfformio sylfaenol hyn.
Defnyddir ‘cerdyn sgorio cytbwys’ i werthuso sut mae cais yn perfformio yn ôl amcanion craidd yr ODA ar werth, sy’n cynnwys cost, ac ansawdd. Gall y cerdyn sgorio hefyd gynnwys themâu ehangach diogelwch, diogeledd, ansawdd ac ymarferoldeb, cynaliadwyedd, etifeddiaeth a chydraddoldeb.
Bydd yr ODA yn defnyddio ei gerdyn sgorio mewn perthynas â chaffael contractau uniongyrchol ac yn gofyn i gontractwyr hysbysu’r ODA am berfformiad eu cyflenwyr a’u hisgontractwyr mewn perthynas â’r un amcanion.
I weld y stori lawn, ewch i wefan Awdurdod Gweithredu’r Gemau Olympaidd yma.