10 Medi 2008
Bydd Swyddfa Cyhoeddiadau Swyddogol y Cymunedau Ewropeaidd (OPOCE) yn gweithredu fersiwn addasedig o’r Codau Geirfa Caffael Gyffredin (Codau CPV) ar y 15fed o Fedi 2008. Bydd hyn yn cymryd lle'r fersiwn cyfredol a gyhoeddwyd yn 2003. Bydd y strwythur codau newydd yn cynnig codau newydd i wasanaethau na chafwyd ei gynnwys o dan y cynllun yn flaenorol, ond bydd hefyd yn gwella strwythur y cynllun.
Codau CPV yw dull cymeradwy'r UE o gategoreiddio cytundeb sector cyhoeddus wrth y mathau o nwyddau / gwasanaethau mae’n edrych i gaffael.
Ar y 15fed o Fedi 2008, Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gwneud newidiadau i’w gwasanaeth caffael y sector cyhoeddus - PrynwchiGymru, a’u porth cyfleoedd i gyflenwyr - GwerthwchiGymru, i gymhwyso strwythur y cod newydd. O 09.00 ar ddydd Sadwrn y 13eg o Fedi i 09.00 ar ddydd Llun y 15fed o Fedi ni fydd PrynwchiGymru a GwerthwchiGymru ar gael.
Bydd cynrychiolwyr gwasanaethau caffael y sector cyhoeddus yng Nghymru yn cyhoeddi hysbysiadau OJEU, di-OJEU a RFQ drwy PrynwchiGymru am 09.00 dydd Llun y 15fed o Fedi ymlaen gan ddefnyddio’r codau newydd. Dylai cyflenwyr sydd am dderbyn hysbysiadau o gwerthwchigymru ynglŷn â chyfleoedd paru o’r dyddiad hyn sicrhau eu bod wedi gwirio eu proffil am y codau perthnasol.
Bydd yr hysbysiadau cyntaf i Gymru yn unig (is-OJEU) yn ymddangos ar GwerthwchiGymru o 09:01 ar ddydd Llun y 15fed o Fedi. Bydd y cyhoeddiadau OJEU cyntaf gyda’r strwythur CPV newydd yn ymddangos ar ddydd Mawrth yr 16eg o Fedi. Bydd tanysgrifwyr i GwerthwchiGymru yn derbyn hysbysiadau yn gyfatebol a’r strwythur codau newydd yn eu hysbysiad dyddiol ar ddydd llun y 15fed o Fedi ymlaen.
Er byddwn yn mapio hen godau i godau newydd o fewn proffiliau defnyddwyr cyflenwyr mae yna nifer o godau atodol ar gael y bydd angen i ddefnyddwyr dod o hyd iddynt a’u hychwanegu at eu proffiliau eu hunain.
Yr effeithiau i gyflenwyr
Dylai cyflenwyr darganfod y bydd y codau newydd yn cynrychioli'r gwasanaethau a gynigwyd gan eu busnesau yn well o lawer. Rydym wedi adeiladu ‘Offeryn cyn dewis CPV’ sydd yn caniatáu i gyflenwyr darganfod codau perthnasol newydd cyn y newid ar y 15fed o Fedi.
Byddwn yn mapio eich hen godau i godau newydd yn awtomatig, ond ni fyddwn yn atebol am unrhyw faterion paru sy’n codi o ganlyniad - dylai’r holl gyflenwyr gwirio eu proffiliau. Ni fyddwn yn ychwanegu codau newydd i broffiliau cyflenwyr yn awtomatig - cyfrifoldeb y cyflenwr ydy hyn.
Ar unrhyw adeg, gallai cyflenwyr defnyddio’r cynorthwyydd paru hysbysiadau <link> i adolygu codau o fewn hysbysiadau cyfleoedd, gan ddilyn cysylltiadau i ychwanegu neu ddiddymu codau o’u proffiliau. Rydym yn argymell cyflawni chwiliad eang am hysbysiadau sydd ar GwerthwchiGymru yn rheolaidd, gan adolygu eu codau ac ychwanegu / diddymu fel sydd ei hangen tan fydd proffil y cwmni yn gywir.
Nodwch, mae GwerthwchiGymru yn caniatáu i ddefnyddwyr dewis paru ‘niwlog’ neu baru ‘caeth’. Bydd y cyflenwyr hynny sy’n dewis paru ‘niwlog’ yn derbyn hysbysiadau gyda chodau CPV cysylltiedig i’r rhai sylfaenol a dewiswyd am eu proffil. Os dewisir ‘caeth’ yna dim ond paru diamod a anfonir.
Am ragor o wybodaeth ymgynghorwch cysylltwch â ni
Yr effeithiau i brynwyr
Bydd yn rhaid i’r holl hysbysiadau a gyhoeddwyd drwy PrynwchiGymru cynnwys y codau newydd o’r 15fed o Fedi ymlaen.
Bydd hysbysiadau a gyhoeddwyd cyn y 15fed o Fedi dal i’w gweld ar GwerthwchiGymru, ac ar draws safleoedd cyhoeddiadau OJEU, ond bydd yr hysbysiadau yn cynnwys codau a gafwyd eu mapio i’r rhai newydd yn awtomatig.
Mae yna nifer o effeithiau eraill i brynwyr, cysylltwch â’ch cynrychiolydd PrynwchiGymru neu ymgynghorwch cysylltwch â ni
Gwybodaeth Cefndir
Datblygwyd codau CPV gan yr Undeb Ewropeaidd dros gaffael cyhoeddus yn benodol. Cafwyd y brif eirfa ei seilio ar strwythur coeden gyda chodau lefel uchel yn rhoi disgrifiad eang ac is categorïau yn diffinio cynnyrch a gwasanaethau penodol. Eu prif bwrpas yw helpu personél caffael safoni eu hysbysiadau contract yn gyson ac yn gywir ac i helpu cyflenwyr dod o hyd i’r hysbysiadau hynny sydd o ddiddordeb iddyn nhw drwy ddefnyddio geirfa safonedig.
Mae gan yr holl godau CPV cyfieithiad safonol i bob iaith yn yr UE. Ar hyn o bryd, nid ydyw yn cynnwys y Gymraeg, felly darperir codau CPV ar PrynwchiGymru a GwerthwchiGymru yn Saesneg yn unig.
Newidiwyd disgrifiad rhai codau, cafwyd rhai eu dileu a chafwyd amryw o godau newydd ei hychwanegu.
Cymorth yn ystod y trawsnewidiad
Darperir cyfarwyddyd syml ar GwerthwchiGymru i gyflenwyr ac ar PrynwchiGymru i brynwyr. Defnyddiwch yr adnodd ‘Cysylltu â ni’ ar y ddau safle am gefnogaeth yn ystod y gweithrediad.