Sell2Wales

Newyddion

Y GWEINIDOG YN FAWR EI GROESO I ADRODDIAD AR CHWALU’R RHWYSTRAU I FUSNESAU


30 Tachwedd 2009

Mae Llywodraeth y Cynulliad newydd gyhoeddi adroddiad ymchwil pwysig ar y rhwystrau sy’n wynebu busnesau bach a chanolig yng Nghymru sydd am ennill contractau cyhoeddus.

Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu gan Andrew Davies, y Gweinidog Cyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus trwy’r Tasglu Caffael Busnes y mae’n ei gadeirio. Cafodd yr adroddiad ei lunio ar y cyd gan Brifysgol Morgannwg a Tenderwise (Prifysgol Bangor a Choleg Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin).

Prif sylw’r ymchwil oedd y cyswllt cyntaf rhwng busnesau a phrynwyr y sector cyhoeddus, sef y broses rag-gymhwyso a defnyddio "rhestrau cymeradwy".  Dangosodd yr ymchwil fod prynwyr yn gofyn i gyflenwyr am yr un wybodaeth o hyd ac o hyd cyn bod unrhyw gontract yn cael ei arwyddo.  Yr unig beth sy’n gallu bod ychydig bach yn wahanol yw’r fformat.

Y prif argymhelliad yw y dylai’r prosesau hyn gael eu safoni ac y dylai cronfa ddata o’r brif wybodaeth graidd am bob cyflenwr gael ei chadw a bod y prynwr yn ei defnyddio fel rhan o’r broses rag-gymhwyso. 

Meddai Andrew Davies: Rwy’n fawr fy nghroeso i’r adroddiad hwn gan Brifysgol Morgannwg a Tenderwise ar y rhwystrau i fusnesau.  Bydd y darganfyddiadau’n gyfraniad pwysig i daclo’r problemau hyn er bod fy adran Gwerth Cymru eisoes yn mynd i’r afael â llawer agwedd ar y gwaith.  Byddaf yn ystyried pob argymhelliad ac yn cyhoeddi fy ymateb maes o law.

"Mae’r argymhellion yn berthnasol i’r sector cyhoeddus gyfan yng Nghymru.  Ein rôl ni yn Llywodraeth y Cynulliad yw sbarduno’r newidiadau ond bydd yn rhaid inni gydweithio’n glos â chynghorau lleol a phartneriaid eraill i gytuno ar gynllun gweithredu i fynd â’r gwaith yn ei flaen."


Cofrestru

Ar ôl i chi gofrestru, bydd prynwyr yn gallu dod o hyd i'ch cwmni.

Cofrestrwch yma »

Mewngofnodwch »

Are you looking for potential Construction Opportunities?

Wyddoch chi?

Gallwch gofrestru aelodau eraill o'ch cwmni ar gwerthwchigymru er mwyn iddyn nhw allu derbyn e-bost dyddiol am gyfleoedd newydd, gweld yr hysbysiadau diweddaraf am dendrau ac ennill mwy o fusnes i chi. 

Pam na rowch chi rywun o'r adran Gyllid, Gwerthiannau neu Ddatblygu Busnes ar y rhestr?  I ychwanegu defnyddwyr newydd, mewngofnodwch ac ewch i Golygu'ch Proffil

Golygu'ch proffil